Rwy’n falch iawn o’r hyn rwyf wedi llwyddo’i gyflawni dros y bum mlynedd diwethaf. Dyma i chi gipolwg ar rai o fy prif nghyflawniadau ers cael fy ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys:
- Sicrhais fwy o Swyddogion Heddlu, i fyny o 1,149 i 1,224 (+75), yn ystod fy nghyfnod fel y Comisiynydd.
- Cyflawnais fy addewid o gyflwyno system CCTV newydd mewn 25 tref gyda dros 150 o gamerâu yn cael eu monitro yn Ystafell Reoli'r Heddlu yn y Pencadlys.
- Rhoddais Dîm Troseddau Gwledig pwrpasol ar waith ar draws ardal Dyfed-Powys gan ddarparu adnoddau arbenigol i gefnogi cymunedau cefn gwlad.
- Cafodd y Timau Plismona Bro eu hadfywio â Chwnstabliaid Heddlu a Rhingylliaid ymroddedig er mwyn sicrhau bod mwy o bresenoldeb yr Heddlu yn ein cymunedau.
- Ni phenodais Ddirprwy anetholedig gan arbed gwerth cyflog o dros £50,000 ar gyfer fy swyddfa.
- Creais Fforwm Dioddefwyr i roi llais cryf i ddioddefwyr o fewn y System Cyfiawnder Troseddol yn Dyfed-Powys.
- Comisiynais y Cynllun Dargyfeirio Troseddwyr cyntaf yng Nghymru er mwyn geithio gyda throseddwyr gyda’r nod o leihau’r achosion o aildroseddu.
- Rwyf wedi cefnogi Gwasanaethau Ieuenctid ym mhob un o'r Awdurdodau Lleol gyda buddsoddiad o £750,000 i ariannu gwaith i atal pobl ifanc rhag mynd i droseddi yn ifanc.
- Llofnodais Gyfamod y Lluoedd Arfog ym mis Mawrth 2019 i sicrhau bod cyn-bersonél y gwasanaeth yn cael eu cefnogi gan yr Heddlu.
- Creais gynhadledd flynyddol Dydd Gŵyl Dewi mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill i drafod pynciau allweddol.
- Cynhaliais gyfarfodydd cyhoeddus rheolaidd gyda Phrif Swyddogion ar draws yr Heddlu er mwyn gwrando'n uniongyrchol ar bryderon cymunedau.
- Sicrhais Gronfa Dad-garboneiddio gwerth £880,000 er mwyn lleihau allyriadau carbon yr Heddlu.
- Heddlu Dyfed-Powys oedd y llu cyntaf yng Nghymru i arwyddo'r addewid 'Marw i weithio' ym mis Chwefror 2021.
- Rhoddais fwy o arian i fynd i'r afael â Throsedd Economaidd a Seiberdroseddu.
- Comisiynais Wasanaeth Dioddefwyr newydd – ‘Goleudy’, i ddarparu gwasanaeth di-dor i ddioddefwyr ledled Dyfed-Powys.
- Enillodd Heddlu Dyfed-Powys Wobr Aur Buddsoddwyr mewn Pobl sy’n dangos ymrwymiad y llu tuag at ei staff a’i swyddogion.
- Prynwyd 14 o gerbydau trydan ar gyfer y Timau Plismona Bro er mwyn creu gwasanaeth plismona lleol mwy gwyrdd.
- Sefydlwyd Cronfa Strydoedd Mwy Diogel gwerth £200,000 ar gyfer wardiau Glanymor a TyIsha yn Llanelli ar gyfer mentrau atal troseddau.
- Rwyf wedi ymrwymo y bydd Heddlu Dyfed-Powys yn dod yn gyflogwr 'Cyflog Byw Go Iawn'.
- Cymerais ran mewn her seiclo uchelgeisiol i godi arian at elusen, gan feicio dros 500 milltir ar draws Dyfed-Powys mewn 5 diwrnod gyda'r elw'n mynd tuag at mentrau ieuenctid lleol.
- Rwyf wedi cefnogi sefydliadau academaidd yn eu hymchwil ym maes troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn cael gwell dealltwriaeth ar y materion hyn.
- Cefnogais 14 o ddigwyddiadau cyllideb cyfranogol oedd yn grymuso cymunedau lleol i wneud penderfyniadau ar gyllid o £200,000.
- Crëwyd dros 150 o swyddi ychwanegol i gefnogi swyddogion yr heddlu yn eu gwaith ac i wella'r gwasanaeth i'r cyhoedd.
- Prynwyd 4 cerbyd 4X4 newydd i gefnogi’r Tîmau Troseddau Gwledig er mwyn gwella presenoldeb yr heddlu yng nghymunedau cefn gwad.
- Penodwyd Cwnstabliaid Heddlu ychwanegol yn benodol ar gyfer ein trefi a’r stryd fawr er mwyn gwella’r gefnogaeth i fusnesau.
- Gweithiais mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bêl-droed Dinas Abertawe i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc.
- Gweithiais gyda'r gymuned leol yn y Drenewydd ar ymweliad ‘The Knife Angel’, y dref gyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r neges gwrth-drais.
- Darparwyd grant Diogelwch Cymunedol o £25,000 i bob ardal bartneriaeth ar draws Dyfed-Powys i gyflawni prosiectau allweddol.
- Crëwyd Desg Cyfathrebu Digidol newydd i wella cyfleoedd i gyfathrebu â'r Heddlu.
- Gweithiais gyda nifer o bartneriaid ar brosiectau arloesol, ac enillodd un o’r prosiectau hynny, mewn cydweithrediad â Chwmni Drama Arad Goch, wobr Celfyddydau mewn Busnes.
Cyflawnwyd hyn oll gyda’r gyfradd Treth Gyngor isaf yng Nghymru, a dyfarnwyd y Marc Ansawdd Tryloywder i'm swyddfa am y tair blynedd diwethaf.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter