Cymru yw'r unig genedl yn y DG heb bwerau dros ei systemau plismona a chyfiawnder.
Mae plismona wedi'i ddatganoli yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a hyd yn oed Manceinion - beth am Gymru?
Pe bai plismona'n cael ei ddatganoli, byddai heddluoedd Cymru yn derbyn £25 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol - mae hynny'n cyfateb i 900 o heddweision ychwanegol.
Mae Cymru ar drugaredd fformiwla ariannu heddlu San Steffan sy'n rhoi mwy o arian i ddinasoedd yn Lloegr.
Mae trethdalwyr Cymru eisoes yn talu mwy tuag at eu heddlu lleol trwy'r presept Treth Gyngor.
Mae Plaid Cymru eisiau dod â'r annhegwch hwn i ben, a bydd datganoli plismona yn helpu i gyflawni hynny.
Ychwanegwch eich enw i gefnogi datganoli plismona a £ 25 miliwn yn ychwanegol i heddluoedd Cymru.
Dangos 1 ymateb