Dyfed Powys

Dafydd Llywelyn

Dafydd_website.jpg

Rwy'n Gomisiynydd Heddlu y gallwch ymddiried ynddo i gyflawni fy addewidion. Rwy'n gwrando ar y gymuned. Rwy'n cynnal cyfarfodydd cyhoeddus rheolaidd sy’n rhoi cyfleoedd i’r cyhoedd ddweud eu dweud am eu gwasanaeth heddlu lleol. Rwy'n gweithio'n ddiflino i gynrychioli ac ymgysylltu â phob rhan o ardal Dyfed Powys. Mae sicrhau gwasanaeth heddlu sy’n effeithiol ar lawr gwlad wedi bod yn flaenoriaeth i mi bob amser.


Pwy ydw i?

  • Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd cyfredol
  • Cyn-ddarlithydd Criminoleg
  • Cyn-Ddadansoddwr Gwybodaeth Gudd gyda’r Heddlu
  • 20 mlynedd o brofiad gyda’r Heddlu

Beth ydw i wedi’i gyflawni

Ers cael fy ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd yn 2016, rwyf wedi:

  • Cyflwyno system CCTV o'r radd flaenaf sy'n cael ei fonitro gan swyddogion heddlu 24/7    
  • Sefydlu Tîm Troseddau Cefn Gwlad i ddal troseddwyr a mynd i'r afael â throseddau yng nghefn gwlad
  • Mynd i'r afael â phroblemau cyffuriau ar hyd Llinellau Sirol trwy dargedu trosedd trefnedig
  • Rhoi buddsoddiad i’r Timau Troseddau Ieuenctid er mwyn lleihau lefelau troseddu ymhlith pobl ifanc
  • Cyflwyno model Plismona Bro sy’n cydweithio gyda’r gymuned er mwyn datrys problemau lleol      
  • Rhoi cynllun Dargyfeirio Troseddwyr ar waith sy’n defnyddio dulliau arloesol i atal aildroseddu

Mae bod yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd ers 2016 wedi bod yn fraint fawr a dwi’n ei ystyried yn anrhydedd o’r mwyaf i gael cynrychioli llais y cyhoedd ar blismona lleol a materion yn ymwneud â chyfiawnder troseddol.

Mae plismona a’r system cyfiawnder troseddol ehangach wedi bod dan bwysau aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf ac rwy’n falch o’r hyn mae’r llu wedi medru ei gyflawni er gwaetha’r amgylchiadau heriol. Mae ardal Heddlu Dyfed Powys yn un o'r lleoedd mwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr i fyw ynddi.

Nid yw Llywodraeth Ganolog y Deyrnas Gyfunol wedi cefnogi plismona lleol dros y 10 mlynedd diwethaf ond rwyf wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod cynnydd yn y nifer o swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n gwasanaethu yn ein cymunedau. Rwyf wedi cydbwyso darparu adnoddau ychwanegol â chynnal lefelau isel o dreth gyngor. Ein cyfraddau treth cyngor ni yw’r isaf yng Nghymru.

Rwyf wedi darparu system CCTV fodern ar draws y rhanbarth, wedi sefydlu tîm troseddau cefn gwlad pwrpasol ac wedi rhoi pwyslais ar fynd i'r afael â thrais domestig a’r problemau cyffuriau yn ein cymunedau.

Mae gwasanaethau i bobl ifanc wedi bod yn ganolbwynt i mi hefyd er mwyn dargyfeirio pobl ifanc oddi wrth bywyd o droseddi. Rwyf wedi ymweld, ariannu a chefnogi llawer o glybiau ieuenctid lleol gan ddarparu grant blynyddol o £ 180,000 i wasanaethau ieuenctid yn y 4 awdurdod lleol.

Rwy'n falch o'r hyn rydw i wedi'i gyflawni dros y 5 mlynedd diwethaf ond mae cymaint mwy i’w wneud wrth gwrs. Gobeithio y gallwch fy nghefnogi ar Fai'r 6ed fel y gallaf barhau i gael effaith gadarnhaol ar y gwasanaeth heddlu lleol ac ar ddiogelwch ein cymunedau.


Fy addewid i chi

  • Byddaf yn cynyddu nifer y swyddogion a'r staff dros y 4 blynedd nesaf
  • Byddaf yn sianelu mwy o adnoddau i’n timau plismona bro
  • Byddaf yn parhau i gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus i gynyddu llais y cyhoedd wrth lunio’r gwasanaeth plismona yn y dyfodol
  • Byddaf yn adeiladu mwy o bartneriaethau trwy gydweithio gydag adrannau awdurdodau lleol, asiantaethau ac elusennau.
  • Bydd diogelwch ar y ffyrdd yn flaenoriaeth allweddol
  • Ni fyddaf yn penodi Dirprwy Gomisiynydd a byddaf yn parhau i leihau costau ymgynghorwyr allanol
  • Byddaf yn rhoi’r dioddefwr wrth galon y gwasanaeth ac yn datblygu gwasanaeth sy'n cael ei arwain gan y dioddefwr
  • Ni fyddaf yn preifateiddio gwasanaethau cymorth craidd yr heddlu

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • M Alwyn Watkins
    followed this page 2021-04-05 20:14:30 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.