Mae pobl Cymru ar eu colled gan nad yw'r system gyfiawnder wedi ei datganoli i'r Senedd. Mae hyn wedi arwain at system gyfiawnder sydd heb ei chysylltu â iechyd, addysg na gwaith cymdeithasol – sydd yn gwaethygu'r anghydraddoldebau sydd yn bodoli'n barod ac yn effeithio ar y diogelwch y mae gennym hawl iddo.
Byddai datganoli cyfiawnder a phlismona yn golygu £25 miliwn yn ychwanegol i Gymru i'w wario ar blismona a chyfiawnder - sy'n cyfateb i 900 o heddweision ychwanegol.
Darllenwch fwy am hyn a chwe addewid arall y byddai ein Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Plaid Cymru yn eu gweithredu pe baent yn cael eu hethol, yn ein maniffesto isod.
- Fformiwla Cyllido Teg ar gyfer Plismona yng Nghymru nes ei fod wedi'i ddatganoli'n llawn
- Gwell integreiddio a thryloywder rhwng yr heddlu a'r gymuned
- Cynllun i leihau troseddu ac aildroseddu
- Gwella Cymorth i Ddioddefwyr
- Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb
- Creu Unedau Trosedd Economaidd
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter