Ann Griffith
Am Ann:
- Cyn Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru
- Uwch-Reolwraig Amddiffyn Plant a Gwaith Cymdeithasol Iechyd Meddwl
- Cyn-Gynghorydd Sir etholedig
- Penodiad Cyhoeddus gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i’r Llys Gwarchod
Yn wreiddiol o Wrecsam, magwyd yn y Bermo ac wedi byw yn Sir Fôn dros y 30 mlynedd ddiwethaf, Ann yw’r ymgeisydd profiadol yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Yn ei rôl fel Dirprwy Gomisiynydd Heddlu, arweiniodd Ann waith ar blant a phobl ifanc; menywod yn y system gyfiawnder, a safonau proffesiynol yn yr heddlu, gan gynnwys lles y swyddogion a’r staff.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, datblygodd Ann wybodaeth arbenigol am gaethwasiaeth fodern, masnachu mewn pobl, y ‘ county lines’ mewn cyffuriau, ac iechyd meddwl.
Yr oedd ei phartneriaeth lwyddiannus gyda’r Comisiynydd presennol, Arfon Jones, wedi helpu i ddatblygu gwasanaeth heddlu effeithiol yn y rhanbarth. Nawr mae gennym un o’r heddluoedd mwyaf blaengar ac effeithiol yng Nghymru a Lloegr, sydd wedi ennill parch.
Blaenoriaethau Ann:
1. Lles a datblygiad
I’n gweision cyhoeddus ymrwymedig allu ein hamddiffyn ni a’n cymunedau maent yn haeddu’r hyfforddiant a’r datblygiad gorau oll, felly hefyd gyda’r gofal a’u cyfarpar. Fe wnaf fy ngorau glas i sicrhau bod y gweithlu i gyd yn teimlo bod gwerth iddynt, eu bod yn cael gofal a chefnogaeth.
2. Cefnogi menywod a merched
Rwyf wedi ymrwymo i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae’r Comisiynydd Dioddefwyr yn dweud wrthym fod dioddefwyr trais rhywiol o bob math wedi colli ffydd yn y system gyfiawnder. Rwy’n addo hyrwyddo hawliau dioddefwyr, sicrhau gwell cyfraddau euogfarnau, a pharhau i gyllido’r Ganolfan Helpu Dioddefwyr.
3. Atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae plismona cymdogaethau lleol sydd wedi ymrwymo i atal troseddau, mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymgysylltu â chymunedau yn bwysig o ran meithrin hyder ac ymddiriedaeth. Byddaf yn mynd i’r afael mewn ffordd strwythuredig a chryf â throseddau lleol.
4. Lleihau Ail-droseddu
Byddaf yn canolbwyntio ar gyfeirio troseddwyr lefel-isel ymaith oddi wrth droseddu trwy gefnogi rhaglen arloesol Checkpoint Cymru a Llwybrau Merched, cyfiawnder adferol a pholisïau cynyddol i leihau niwed cyffuriau er mwyn gostwng cyfraddau troseddau.
5. Ymyriad Cynnar i bobl ifanc
“Mae’n haws adeiladu plant cryf na thrwsio oedolion toredig.” Rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu rhaglen arloesol amlasiantaethol i atal plant a phobl ifanc rhag troi at droseddu.
6. Troseddau Casineb
Wedi gweld cynnydd annerbyniol, rwy’n addo gwella’r gwasanaeth mae’r heddlu’n roi i ddioddefwyr a gweithio’n well gyda’n partneriaid i atal twf troseddau casineb, a thrin difenwi ar-lein yn gadarn.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter